Croeso i Caban Cadair Idris!
Mae Caban Cadair Idris yn fwthyn hunan-arlwyo clud a byncws sy’n agos i Cadair Idris, Dolgellau, ym Mharc Cenedlaethol Eryri.
Mae’n ganolfan ddelfrydol ar gyfer ymweld ag Eryri i archwilio mynyddoedd Gogledd Cymru, beicio a cherdded yng Nghoed y Brenin, llwybr Mawddach ac archwilio traethau lleol megis Abermaw a’r Friog.
Wedi’i osod mewn cefn gwlad gwych gyda golygfeydd syfrdanol, mae yna lawer o deithiau cerdded o garreg y drws. Gallwch gerdded Cadair Idris o’r bwthyn, felly os ydych chi’n teimlo’n egnïol gallwch fynd yn syth ar ôl brecwast! Os ydych chi’n un sy’n mwynhau cerdded, yna Dolgellau ydy’r lle i chi. Gallwch gerdded dros fynyddoedd, ger rhaeadrau neu afonydd, nentydd a llynnoedd – cewch gyfle i weld Eryri ar ei gorau.
Bwthyn sy’n croesawy anifeiliad anwes
Mae Y Gribyn yn fwthyn clyd ar gyfer un neu ddau berson ac mae e ar gael i’w fwcio drwy’r ffurflen cysylltu.
Y Byncws
Hen ysgol gynradd rhestredig Gradd II, sydd wedi bod yn byncws o’r blaen. Ar hyn o bryd mae’n cael ei hadnewyddu.