Mae bwthyn gwyliau Y Gribyn yn fwthyn rhestredig Gradd II, sy’n addas ar gyfer cyplau neu anturiaethwyr unigol. Mae Y Gribyn yn llai na 2 filltir o Gadair Idris, felly mae’n ganolfan wych ar gyfer ymweld ag Eryri i archwilio mynyddoedd Cymru, beicio a cherdded yng Nghoed y Brenin a’r llwybr Mawddach, ac archwilio traethau lleol megis Abermaw a’r Friog.
Bwthyn yn ymil Cadair Idris
Gallwch gerdded Cadair Idris o’r bwthyn, llwybr ychydig yn hirach a sy’n arwain yn y pen draw i ddechra’r ‘Pony Path’. Felly, os ydych chi’n teimlo’n egnïol, gallwch fynd yn syth ar ôl brecwast! Mae’r bwthyn wedi’i leoli mewn cefn gwlad gwych yn ymil Dolgellau, gyda golygfeydd syfrdanol a nifer o deithiau cerdded o thafled-garreg y drws.
" Mae Y Gribyn yn loches ymlaciol a swynol i fwynhau ychydig o llonyddwch. Byddwch chi'n siwr o fwynhau ymlacio wrth edmygu un o ardaloedd harddaf Cymru. "
Cyfleusterau:
- Ystafell wely gyda gwely dwbl bach (W 120 x L 192cms)
- Ystafell gawod bach gyda chawod, toiled a basn law
- Cegin / lolfa gyda oergell, microdon, hob trydan a ffwrn trydan.
- Lolfa gyda soffa dwy sedd gyfforddus
- Mae drws llithro yn arwain at ardal patio llechi bach (yn berffaith ar gyfer barbeciw).
- Gwres canolog trydan
- WiFi




Bwthyn sy’n croesawy anifeiliad anwes
Croeso i gŵn, yn rhad ag am ddim! Ie, bwciwch wan a dewch hefo’ch frind blewog am ddim cost ychwanegol. Mwynhau’r ardal gyda’ch ffrind blewog! Rydym yn croesawu cŵn sy’n medru ymddwyn yn dda. Mae digon o deithiau cerdded hyfryd a thraethau tywodlyd. A fedrwch nodi ar y ffurflen cyswllt os rydych yn bwriadu dod gyda’ch ci.